Blas Crickhowell
Wine | Beer | Spirits | Tasting
Gwin | Cwrw | Gwirod | Blasu




Rydym yn siop win, cwrw a gwirod annibynnol , mae gennym fwrdd blasu ac o bosib ni yw’r siop leiaf o’i math yng Nghymru. Mae’r siop, sydd â blas wrth galon popeth yr ydym yn ei werthu, yn Beaufort Street, Crughywel, ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Mae popeth ar ein silffoedd wedi cael eu dewis yn ofalus. Wnewch chi ddim dod o hyd i unrhyw beth sydd ar gael mewn archfarchnad. Cynhyrchwyr o Gymru sy’n dod gyntaf, ac mae lle hefyd i weddill y byd.
Mae gennym 80 o winoedd, 30 o wirod a 40 math gwahanol o gwrw a bydd sawl potel ar agor yn barod i’w blasu bob amser yn y siop. Dewch i mewn, blaswch rhywbeth, ac os yw at eich dant, ewch â photel adref. Dyna ni. Dim pwysau, dim jargon, dim ond diodydd da a sgwrs onest.
Os hoffech fod yn fwy o ran o’r siop, gofynnwch am fwy o fanylion am The Fifty. Mae ein aelodaeth sefydlu’n cynnig prisiau gwell a chynnig cyntaf ar boteli prin.
Rydym ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn. Byddem wrth ein bodd yn eich gweld.
The Fifty
Gostyngiadau: Gostyngiad o 10% ar bris pob potel yn y siop yn ogystal ag unrhyw ddiodydd sy’n cael eu prynu i’w hyfed yn y siop ei hun
Cynnig cyntaf: Bydd aelodau’n cael cynnig gweld a phrynu unrhyw boteli prin ac eithriadau sy’n ein cyrraedd cyn iddynt gael eu cynnig i’r cyhoedd.
Hanner Cant o Sefydlwyr. Un Cyfriflyfr. Dim Eithriadau
Dim ond 50 aelodaeth sefydlu sydd ar gael. Mae pob aelodaeth gydol oes yn costio £200. Mae aelodaeth yn rhoi mynediad at brisiau The Fifty, cynnig cyntaf ar boteli prin a chasgladwy sy’n cyrraedd Blas a digwyddiadau Blas.
Unwaith y bydd y llefydd hyn wedi’u llenwi, bydd cyfeirlyfr the Fifty yn cau.
Telerau ac Amodau yma
I ddod yn aelod o The Fifty, neu os oes gennych unrhyw gwestiwn, e-bostiwch peter@blascrickhowell.co.uk. Byddaf yn ymateb i bob cais yn eu tro ac yn anfon manylion am sut i dalu.
Gellir casglu cardiau aelodaeth o’r siop wedi i ni agor.
Cerdyn Aelodaeth: Bydd aelodau’n cael cerdyn metel unigryw a fydd yn cadarnhau eu haelodaeth
Digwyddiadau a sesiynau blasu: Aelodau fydd yn cael y gwahoddiad cyntaf i fynychu digwyddiadau a sesiynau blasu a gynhelir gan Blas Crickhowell
Sesiynau Blasu Preifat
Rydym yn agor poteli na fyddai’n cael eu hagor gan siopau eraill. Dim gorchest, dim ond cynnig y cynnyrch gorau o Gymru ac o bedwar ban byd.
Y Lleoliad: Blas Crickhowell.
Y Grŵp: Hyd at 6 o bobl (ystafell fach ond llawn cymeriad).
Y sesiynau: Gallwn greu sesiwn yn seiliedig ar yr hyn yr ydych chi’n dymuno ei yfed. Gwin, Gwirod, Cwrw, neu gyfuniad o’r rhain.
Prisiau: Bydd amrywiaeth o Sesiynau Blasu ar gael. Bydd y pris yn dibynnu ar gais y cwsmer ond i roi syniad, byddai sesiwn blasu cyfuniad o ddiodydd, ar gyfer 6 o bobl, yn costio £250.
Blas Crickhowell
Tel: 07356 064640
Peter@blascrickhowell.co.uk


No algorithms. No shipping. No 'Add to Cart'. We believe curated bottles should be offered face-to-face.
Visit Blas Crickhowell to explore the portfolio, because some treasures are only found in person.
Opening Hours / Oriau Agor
Mon - Sat: 10:30 - 18:00
Sun: Closed
Llun - Sad: 10:30 - 18:00
Sul: Ar Gau
